Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 – Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mai 2023
Amser:
09.04 -
14.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13337
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Sharon Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru James Hooker, Llywodraeth Cymru Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Carwyn Jones, Cyngor Sir Ynys Môn Chris Neath, Rhwydwaith Cymheiriaid Cenedlaethol Llyfrgelloedd a Reolir gan y Gymuned Nicola Pitman, Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru Sarah Rhodes, Llywodraeth Cymru Amy Staniforth, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru Councillor Rob Stewart, Cyngor Abertawe |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol.
2 Yr Hawl i Gael Tai Digonol - sesiwn dystiolaeth 6 - y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Interim Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
James Hooker, Pennaeth Polisi Tai Sector Preifat, Llywodraeth Cymru
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4 a 8 ac o’r cyfarfod ar 11 Mai
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Yr Hawl i gael Tai Digonol - ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Gwasanaethau Llyfrgell a Hamdden awdurdodau lleol - sesiwn dystiolaeth 5
5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Amy Staniforth, Rheolwr Perthynas, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru
Nicola Pitman, Cadeirydd, Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru
Chris Neath, Rheolwr Rhwydwaith, Rhwydwaith Cymheiriaid Cenedlaethol Llyfrgelloedd a Reolir gan y Gymuned
6 Gwasanaethau Llyfrgell a Hamdden awdurdodau lleol - sesiwn dystiolaeth 6
6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Y Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, Cyngor Sir Ynys Môn
Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - Ymgysylltu
7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.2 Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru mewn perthynas â’r Hawl i Gael Tai Digonol
7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.3 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ddigartrefedd
7.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
8 Trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 5 a 6
8.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.